Dewch o hyd i'r fersiwn Saesneg yma.

Mae blwyddyn ysgol arall yn nesau at ei diwedd; mae gwyliau haf ar y gorwel! Er y gall y cylch academaidd deimlo’n ailadroddus – yr un gwersi a thestunau a gwmpesir flwyddyn ar ôl blwyddyn – mae pethau wedi bod yn wahanol i ysgolion yng Nghymru eleni wrth i lawer ddechrau gweithredu’r Cwricwlwm newydd i Gymru https://hwb.gov.wales/cwricwlwm-i-gymru.

 O fis Medi 2022, mae holl ysgolion cynradd Cymru wedi bod yn gweithredu cwricwla newydd a ddylai anelu at gyflawni pedwar diben, gan gefnogi myfyrwyr i ddod yn ddysgwyr uchelgeisiol, galluog; cyfranwyr mentrus, creadigol; egwyddorol a gwybodus; ac unigolion iach, hyderus.

Gall y cyfle i ddatblygu cwricwlwm newydd fod yn gyfle cyffrous i gymysgu pethau a dod o hyd i ffyrdd arloesol o ennyn diddordeb eich disgyblion, ond gall hefyd fod yn dasg frawychus ac ychwanegu gwaith at lwyth gwaith sydd eisoes yn drwm.

Gall ein cynllun Gwobrau CREST fod yn ffordd wych o helpu eich cwricwlwm i gyflawni’r pedwar diben. Ar ben hynny, diolch i gyllid gan Swyddfa Gwyddoniaeth Llywodraeth Cymru, mae Gwobrau CREST am ddim i holl ysgolion cynradd ac uwchradd Cymru.

Rydyn ni wedi siarad â Rachael Mackay, athrawes Blwyddyn 6 ac arweinydd STEM yn Ysgol Gynradd Monnow yng Nghasnewydd, am ei phrofiad o redeg CREST, y manteision i ddisgyblion a sut mae’r gweithgareddau’n cyd-fynd â’r pedwar diben.

Defnyddio Gwobrau CREST i gyfoethogi eich cwricwlwm

Gwobrau CREST yw ein rhaglen addysg flaenllaw ar gyfer plant ysgol gynradd. Rydym yn darparu gweithgareddau a phecynnau adnoddau Star (5-7 oed) a SuperStar (7-11 oed).

 Mae ein llyfrgell adnoddau CREST hefyd yn cynnwys heriau Darganfod; Prosiectau grŵp 5 awr wedi'u teilwra ar gyfer plant 10-14 oed. Mae hyn yn eu gwneud yn wych ar gyfer disgyblion cynradd hŷn yn paratoi ar gyfer trosglwyddo i'r ysgol uwchradd.

 Mae'r gweithgareddau hyn yn ddelfrydol i'w cynnwys yn eich cwricwlwm newydd; maent wedi’u cynllunio’n berffaith i’ch helpu i gyflawni pob un o’r pedwar diben a chael gwared ar rywfaint o’r baich o gynllunio gwersi. Mae'r gweithgareddau'n canolbwyntio ar wyddoniaeth ond yn cefnogi dysgu trawsgwricwlaidd gyda daearyddiaeth, celf, dylunio a llawer o bynciau eraill.

Y pedwar diben a Diwrnod Darganfod

Cynhaliodd yr athrawes Rachael Mackay ein her Darganfod ‘Machines of the Future’ (ar gael yn y Gymraeg fel ‘Peiriannau’r Dyfodol’) – “y prosiect mwyaf a gyflawnwyd gennym”. Mae’r prosiect hwn yn annog plant i feddwl am ddysgu peirianyddol a deallusrwydd artiffisial, sut mae’n berthnasol i’w bywydau a sut y gallwn ei harneisio orau yn y dyfodol.

Meddai hi:

“Fe darodd y [prosiect] hwn gymaint o’r pedwar diben. Roedd yn rhaid i'r plant fod yn uchelgeisiol a galluog, gan fod llawer o'u gwaith yn waith tîm, gyda'r plant yn cymryd rolau penodol o fewn y grŵp. 

“Roedd rhaid iddyn nhw fod yn fentrus a chreadigol er mwyn meddwl am a rhoi syniadau at ei gilydd ar gyfer peiriant nad oedd neb arall wedi meddwl amdano eto – ac wrth gwrs roedd yn rhaid iddyn nhw wedyn greu’r peiriant hwnnw’n gorfforol!

“Roedd yn rhaid iddynt hefyd fod yn ddinasyddion gwybodus ac egwyddorol, gan fod yn rhaid iddynt ystyried sut y gellid gwneud eu prototeipiau gan ddefnyddio dim ond eitemau wedi'u hailgylchu neu eu hailddefnyddio ac roedd yn rhaid iddynt hefyd feddwl a fyddai creu'r peiriant yn tynnu cyflogaeth oddi wrth unigolyn neu grŵp o bobl.”

Cynhaliodd Rachael ein her Darganfod ‘Wild Creations’ (sydd ar gael yn y Gymraeg fel ‘Creadigaethau Gwyllt’) hefyd, sy’n ysbrydoli myfyrwyr i ddylunio gosodiad celf i ddathlu diwylliant lleol. Mae'r pecyn gweithgaredd hwn hefyd ar gael yn Gymraeg. Meddai hi:

“Mae Creadigaethau Gwyllt yn wych ar gyfer meithrin gwell dealltwriaeth o ddeinameg eu cymuned leol…Mae hyn yn cysylltu’n uniongyrchol â dinasyddion gwybodus ac egwyddorol fel pwrpas craidd, ond mae’r ymdeimlad o berthyn yn cyfrannu’n uniongyrchol at y diben iach a hyderus, lle mae plant yn dechrau cael gwell ymdeimlad o’u cymuned a rhwydweithiau cymorth ac ati sy’n effeithio’n gadarnhaol ar iechyd meddwl.”

Darparodd Creadigaethau Gwyllt hefyd gyfleoedd ar gyfer dysgu trawsgwricwlaidd:

“Mae gan greadigaethau gwyllt gysylltiadau cadarn â’r ardal (sgiliau daearyddol) a’r celfyddydau mynegiannol (dylunio a chreu mewn 2D a 3D – a welir hefyd mewn gofynion technoleg).

“Mae hyn yn galluogi plant i ddysgu sgiliau cwricwlwm penodol o fewn ffrâm ddealltwriaeth ehangach, sy’n golygu ei fod yn ddilys ac yn ystyrlon, gan alluogi datblygiad sgiliau bywyd go iawn nad ydynt yn cael eu colli unwaith y bydd y gweithgaredd wedi gorffen.”

Meithrin hyder a sgiliau cyfathrebu

Un o’r pedwar diben yw rhoi hyder i blant – nodwedd sy’n hanfodol i fod yn gyfathrebwr clir, ymgysylltiol a rhywbeth y bydd pob plentyn yn elwa ohono, pa bynnag lwybr y bydd yn ei ddewis ym myd addysg a thu hwnt.

Mae cynnal Gwobrau CREST yn rhoi’r cyfle i blant gydweithio â’u cyfoedion trwy weithio mewn grwpiau, a hefyd ymarfer siarad o flaen eu cyfoedion trwy gyflwyno eu gwaith. Gall y math hwn o gyfathrebu fod yn frawychus i blant swil, ond mae ymchwil yn dangos y bydd dod i arfer ag ef o oedran ifanc yn datblygu hyder ac yn eu rhoi mewn sefyllfa dda ar gyfer yr ysgol uwchradd a thu hwnt.

Dywedodd Rachael wrthym fod CREST wedi rhoi hwb i sgiliau cyfathrebu a hyder myfyrwyr, yn enwedig i fyfyrwyr sydd fel arfer yn amharod i gyfrannu yn y dosbarth:

“Daeth y plant mor gyfarwydd â chyfathrebu â’i gilydd i ddatrys problemau a chreu o fewn eu timau ac mewn rôl benodol, fel bod eu hyder wrth gyflwyno i eraill wedi cynyddu’n aruthrol hyd yn oed ar ôl i’r prosiect ddod i ben… 

“Roedd pob plentyn yn cymryd rhan, hyd yn oed plant a oedd yn hanesyddol ofnus neu’n amharod i gyfrannu at drafodaethau dosbarth. Parhaodd y patrwm hwn fis yn ddiweddarach pan oedd yn rhaid i blant gyflwyno unwaith eto mewn timau ar gyfer prosiect hollol wahanol. Dechreuodd yr hyder a'r gallu hwnnw i gyfathrebu gyda Gwobr CREST. Wrth gwrs mae hyn yn cysylltu’n uniongyrchol â’r diben craidd iach a hyderus.”

Cyngor ar gyfer rhai sy’n newydd i CREST

Mae Gwobrau CREST am ddim yng Nghymru, felly os nad ydych wedi eu rhedeg o’r blaen, nawr yw’r amser i gychwyn. Cynigiodd Rachael rai awgrymiadau da ar gyfer y gweithgareddau gorau i ddechrau arni:

“Tymor yr haf:

  • Mae ‘Animal Adventure’ yn un hyfryd os oes gennych chi le awyr agored. Gall y plant ymchwilio i'r bwystfilod bach sy'n byw yn eu hardal leol a dechrau gwahaniaethu rhyngddynt – gan gynnwys meddwl am sut y gellir cynnal eu cynefinoedd.
  • Mae ‘A hole in my bucket’ yn un hwyliog ar gyfer tymor yr haf. Mae'n rhaid i blant ddod o hyd i ffordd o blygio twll mewn cynhwysydd, gan brofi ystod o wahanol ddeunyddiau, i atal y dŵr rhag rhedeg allan!

Tymor yr Hydref:

  • Mae ‘Be seen, be safe’ yn un gwych ar gyfer y dyddiau pan mae’n dechrau tywyllu. Mae'n gwneud i blant ifanc feddwl yn ofalus am ddeunyddiau adlewyrchol a'r hyn y dylent hwy eu hunain fod yn ei wisgo/osgoi ar yr adeg hon o'r flwyddyn.
  • Mae ‘Bridge blunder’ (ar gael yn y Gymraeg fel ‘Camgymeriad y Bont’) yn un hwyliog ar gyfer tymor yr hydref. Mae'n rhaid i blant greu pont o bapur a hyd cyfyngedig o dâp gludiog sy'n dal pwysau cynyddol.

Tymor y Gwanwyn:

  • Mae ‘Brilliant Bubbles’ yn dasg archwiliol wych dan do neu yn yr awyr agored lle mae plant yn cael eu herio i ‘newid’ swigod. Mae hyn yn eu harwain i ddechrau meddwl am gyflyrau mater a'r newidiadau y gellir/na ellir eu gwneud.
  • Mae ‘Cheesy Challenge’ yn wych ar gyfer tymor y gwanwyn. Mae’r plant yn ymchwilio ac yn gwneud eu caws eu hunain!”

Ar ein sianel YouTube, fe welwch fideos arddangos ar gyfer rhai o’r gweithgareddau hyn, gan gynnwys ‘Animal Adventures’, a llawer o weithgareddau CREST cynradd eraill. Dewch o hyd i'r fideos yma.

Am fwy o weithgareddau a phrosiectau i ysbrydoli eich myfyrwyr, gallwch ddod o hyd i'n llyfrgell adnoddau CREST yma. Rydym yn cynnig nifer o adnoddau yn yr iaith Gymraeg, gan gynnwys casgliadau o weithgareddau Star a SuperStar, ‘Her bom bath’, ‘Y cwpanaid perffaith o de’ a ‘Sut mae coginio yn newid pasta?’. Mae’r rhain yn brosiectau ar gyfer myfyrwyr 11 oed hŷn - yn ddelfrydol i athrawon uwchradd eu defnyddio yn y flwyddyn academaidd nesaf pan fydd y cwricwlwm newydd yn cael ei gyflwyno ar gyfer Blwyddyn 7 ac 8.

Cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr addysg am fwy o weithgareddau a newyddion STEM ysbrydoledig.

Efallai y bydd rhain o ddiddordeb i chi:

Blog – CREST in Wales – ‘Engaging, relevant and flexible’

Blog - Enjoy the summer with CREST!

Blog – Equal early years education is crucial for future success