The British Science Festival is a FREE four-day Festival, hosted by Swansea University, featuring speakers and events from beyond science, across history, policy and the arts.

Shrinking Space and the British Science Festival, alongside Swansea University, are curating an evening of art/science in South Wales.

The brief:

Shrinking Space is calling for submissions from artists, performers and creatives working with or, inspired by, scientific disciplines to respond to the theme of Night. 

We are looking for evocative art/science projects that bring to life what happens once the sun goes down. They might draw from as varied inspiration as; the mechanics of nocturnal flora and fauna, light pollution, starry skies, to being scared of the dark...

  • We welcome proposals from across all art forms.
  • Submissions can be translations of existing projects or new works. *Artists must have full copyright ownership for work submitted.
  • Given the location of the event is in Swansea, we would like to encourage applications from artists working in Wales, South West England and the West Midlands.
  • We can offer grants of up to £500, which should include all project costs and travel expenses.
  • Artists must be available on Wednesday 7 September 2016. The evening will take place in the unique setting of Swansea’s Plantasia, exact timings tbc. 

How to apply:

Applicants should submit their proposal via the online form on the Shrinking Space website before Midday, Sunday 26th June 2016.

Creaduriaid y Nos – Galwad am waith Celf/Gwyddoniaeth

Cyfle i gyflwyno gwaith yn Abertawe ddydd Mercher 7 Medi 2016, yn ystod Gŵyl Wyddoniaeth Prydain, a gynhelir yn flynyddol.

Gŵyl bedwar diwrnod DDI-DÂL yw Gŵyl Wyddoniaeth Prydain, a gynhelir ym Mhrifysgol Abertawe, a bydd yn cynnwys siaradwyr a digwyddiadau o’r tu hwnt i wyddoniaeth, ar draws meysydd hanes, gwleidyddiaeth a’r celfyddydau.

Mae Shrinking Space a Gŵyl Wyddoniaeth Prydain, ochr yn ochr â Phrifysgol Abertawe, yn curadu noson o gelf/wyddoniaeth yn Ne Cymru.

Y Brîff:

Mae Shrinking Space yn galw ar artistiaid, perfformwyr a chyflwynwyr creadigol sy’n gweithio gyda disgyblaethau gwyddonol, neu sydd wedi’u hysbrydoli ganddynt, i gyflwyno gwaith sy’n ymateb i thema’r Nos.

Rydym ni’n chwilio am brosiectau celf/gwyddoniaeth sy’n procio’r cof ac yn cyfleu beth sy’n digwydd ar ôl i’r haul fachlud. Gallai’r ysbrydoliaeth ar eu cyfer fod mor amrywiol â; mecaneg planhigion ac anifeiliaid y nos, llygredd goleuni, wybren serog, ofni’r tywyllwch...

  • Rydym ni’n croesawu cynigion ar draws holl ffurfiau celf.
  • Gall gweithiau a gyflwynir fod yn drosiadau o brosiectau sydd eisoes yn bodoli neu’n weithiau newydd. *Rhaid bod yr artistiaid yn berchen ar yr hawlfraint llawn ar gyfer gwaith a gyflwynir.
  • Gan fod y digwyddiad yn cael ei gynnal yn Abertawe, carem annog artistiaid sy’n gweithio yng Nghymru, De-orllewin Lloegr a Gorllewin Canolbarth Lloegr i gyflwyno ceisiadau.
  • Gallwn gynnig grantiau hyd at £500, a ddylai gynnwys holl gostau’r prosiect a’r costau teithio.
  • Rhaid i’r artistiaid fod ar gael ddydd Mercher 7fed Medi 2016. Cynhelir y noson yn lleoliad unigryw Plantasia yn Abertawe, a bydd yr union amserau’n cael eu cadarnhau. 

Sut mae Cyflwyno Cais:

Dylai ymgeiswyr ddefnyddio’r ffurflen ar-lein sydd ar wefan Shrinking Space, a hynny cyn: Hanner dydd, dydd Sul 26 Mehefin, 2016.